Seiat y Cynganeddwyr

[ Cynnwys | Chwilio | Nesaf | Blaenorol | Fyny | Y Seiat Newydd ]

Daeth stop ar y Prif Gopyn

From: Y Prif Gopyn
Date: 25 Dec 2000
Time: 15:18:47
Remote Name: 193.113.185.137

Comments

Ymddiheuriadau llaes i'r rhai hynny ohonoch sy'n dal i aros i weld eich cerddi yn hongian yn yr oriel, neu'r rhai hynny ohonoch sydd am weld rhywun yn tacluso'r cywydd yn y gweithdy. Yn anffodus, oherwydd problemau cyfrifiadurol enbyd iawn dros y dyddiau diwethaf rwyf wedi methu @ gwneud hynny. A hithau'n gyfnod y Gwyliau, efallai y bydd gofyn i chi feithrin mymryn rhagor o amynedd cyn gweld gwell trefn ar yr annedd unwaith yn rhagor.

Ga i fanteisio ar y cyfle i ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Well i bob un o ymwelwyr yr annedd a diolch yn ddiffuant iawn i bawb sydd wedi cyfrannu i godi'r hen le 'ma ar ei draed.

Diwygiwyd ddiwethaf: 25/12/00

I'r Seiat Newydd