[ Cynnwys | Chwilio | Nesaf | Blaenorol | Fyny | Y Seiat Newydd ]
![]()
From: Caryl Ty Newydd
Date: 06 Jan 2001
Time: 07:38:07
Remote Name: 194.222.177.48
DOSBARTH NOS BARDDONI!
Bydd llawer yn holi: be’ ddiawl ydi bardd? Wel, mae’n hen neu yn ifanc, yn hyll neu yn hardd. Yn ddyn neu yn ddynas, yn Cynan neu’n Keith. Yn bryd tywyll, golau, coch, neu frith. Wedi gwneud cannoedd o awdlau mawr hirion, neu un rhigwm bychan, a hwnnw’n un gwirion. Neu wedi bod isio, ac erioed wedi gwneud, oherwydd yr hyn fasai pobol yn ddeud… Dewch i Tŷ Newydd bob nos Iau, i wneud pennill telyn, neu rigwm neu ddau. Tri pheth ’dach chi angen ar gyfer y gwaith: tamaid o bapur, a beiro, a iaith!
Mi fydd dosbarth nos barddoni yn cychwyn yn Tŷ Newydd nos Iau nesa’ yn y byd! Y tiwtor fydd Twm Morys. Cewch fanylion oddi wrth Caryl Lewis, Tŷ Newydd. Ffôn: 01766 522811.
![]()