[ Cynnwys | Chwilio | Nesaf | Blaenorol | Fyny | Y Seiat Newydd ]
![]()
From: Glasvez
Date: 24 Nov 2000
Time: 10:01:05
Remote Name: 194.82.103.71
ydy'r annedd wedi dod i stop neu beth?! a allai rhywun fy helpu i gyda rhyw gwestiwn bach cynganeddol. Yn ei awdl, Cilmeri, mae gan gerallt lloyd oewn linnell sy'n mynd fel hyn: 'fel yr oerfel eu harfau. Os edrychwch yn ofalus, neu wrando'n astud ar y llinell, nid yw'r 'r' yn y gair 'yr' sydd yn rhan gyntaf y llinell yn cael eu hateb. Ydy hyn yn meddwl fod yr 'r' yn 'oerfel' yn ddigonol ac felly nad oes angen ateb yr 'r' yn y geiryn 'yr'.
Os ydy hyn yn gywir, hoffwn wybod os ydy'r llinell ganlynol yn gywir: 'i gilfach onglog y lolfa'
Mae'r un math o beth yn digwydd yma ond mai'r llythyren 'l' sydd yn cael ei hateb gan un 'l'.
byddwn yn falch pe gallai rhyw fardd wybodus fy helpu. trugarez braz.
![]()